Ysgol Gymraeg hapus a chroesawgar yn nhref Llandeilo ac â Chymreictod yn ei chalon ydym ni.
Rydym yn ymfalchïo yn y fraint o fod yn aelod annatod o’r gymuned leol a darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg i blant o’r meithrin hyd at flwyddyn 6.
Awyrgylch cyfeillgar a diogel sydd gennym, ble darparir cwricwlwm llawn cyfleoedd a phrofiadau cyfoethog, cytbwys ac eang er mwyn paratoi’n dysgwyr gydol oes i fod yn:
- Ddysgwyr uchelgeisiol, galluog
- Gyfranwyr mentrus, creadigol
- Unigolion iach, hyderus
- Ddinasyddion egwyddorol, gwybodus
Cymraeg yw prif iaith ein hysgol, a darparir addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf.
Darparir cefnogaeth a darpariaeth ystyrlon a bwriadol trwy gydol yr ysgol gyda’r nod bydd ein dysgwyr yn magu hyder yn y Gymraeg, gan gynnwys hwy o gartrefi di-Gymraeg.
Cyflwynir Saesneg ym mlwyddyn 3 er mwyn sicrhau bod ein dysgwyr yn gadael eu cyfnod yn Ysgol Teilo Sant yn ddwyieithog ac yn gymwys yn defnyddio’r ddwy iaith ymlaen i’w profiadau ysgol uwchradd a thu hwnt.

Taith unigryw yw taith dysgu pob unigolyn, ac rydym yn gymuned o staff ymroddgar sydd am feithrin pob plentyn a’u tywys trwy’r ysgol wrth iddynt ddysgu a thyfu fel unigolion.
Rydym yn canmol ymdrech a chynnydd, gan ddathlu meddylfryd cadarnhaol o dorchi llewys, gwneud ein gorau glas a dyfalbarhau – gan fwynhau gyda gwên pob cam o’r ffordd.