Dyma gyfnod cyffrous ar gyfer Ysgol Gymraeg Teilo Sant ac addysg yng Nghymru wrth i ni gychwyn ar ein taith ymlaen i’r cwricwlwm newydd.
Ymrwymwn i barhau i ddatblygu cwricwlwm bydd yn sbarduno’n dysgwyr a chynnig sylfaen cadarn o’r sgiliau angenrheidiol iddynt flodeuo a llwyddo fel aelod o fyd modern sy’n prysur newid.
Ein dysgwyr sydd yng nghalon ein darpariaeth yma yn Ysgol Gymraeg Teilo Sant, ac mae llais y dysgwr yn rhan bwysig yn ein prosesau cynllunio er mwyn sicrhau bod bywyd yn yr ystafell ddosbarth a’r ysgol yn berthnasol i’w diddordebau a’u hanghenion, ac yn cynnig profiadau dysgu cyfoethog llawn gwybodaeth a sgiliau allweddol. Ymdrechwn i gynnig profiadau gweithredol a dysgu trwy brofiad yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.
Mae hyn yn ysbrydoli ein dysgwyr, eu rhieni a’r staff gan gefnogi’r dysgwyr i ddatblygu i fod yn unigolion ymarferol, galluog ac uchelgeisiol sydd â’r hyder i roi eu dysgu ar waith wrth iddynt barhau ar eu taith.
Yn allweddol i’r cwricwlwm newydd mae’r pedwar diben, y man cychwyn a’r dyhead ar gyfer holl ddysgwyr Cymru. Y rhain sy’n sylfaen i’n holl ymarfer; o’r hyn rydyn ni’n eu dysgu, sut rydyn ni’n eu dysgu, a pham.
Bydd ein holl blant yn cael eu cefnogi i ddatblygu’n:
Ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n:
- gosod safonau uchel iddyn nhw eu hunain ac yn chwilio am heriau ac yn eu mwynhau
- datblygu corff o wybodaeth ac sydd â’r sgiliau sydd eu hangen i gysylltu’r wybodaeth honno a’i chymhwyso mewn gwahanol gyd-destunau
- ymholgar ac yn mwynhau datrys problemau
- gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, drwy’r Gymraeg a’r Saesneg
- gallu egluro’r syniadau a chysyniadau y maen nhw’n dysgu amdanyn nhw
- gallu defnyddio rhif yn effeithiol mewn gwahanol gyd-destunau
- deall sut i ddehongli data a chymhwyso cysyniadau mathemategol
- defnyddio technolegau digidol yn greadigol i rhannu gwybodaeth, dod o hyd iddi a’i dadansoddi
- ymchwilio ac yn gwerthuso eu canfyddiadau’n feirniadol
ac sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau
Gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n:
- cysylltu ac yn cymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau i greu syniadau a chynnyrch
- meddwl yn greadigol er mwyn ail-lunio a datrys problemau
- adnabod cyfleoedd ac yn manteisio arnyn nhw
- mentro’n bwyllog
- arwain ac yn chwarae rolau gwahanol mewn timau’n effeithiol ac yn gyfrifol
- mynegi syniadau ac emosiynau drwy wahanol gyfryngau
- rhoi o’u hegni a’u sgiliau fel y bydd pobl eraill yn elwa
ac sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
Ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n:
- canfod, yn gwerthuso ac yn defnyddio tystiolaeth wrth ffurfio barn
- trafod materion cyfoes ar sail eu gwybodaeth a’u gwerthoedd
- deall ac yn arfer eu cyfrifoldebau a’u hawliau dynol a democrataidd
- deall ac yn ystyried effaith eu gweithredoedd wrth ddewis a gweithredu
- wybodus am eu diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a’r byd yn awr ac yn y gorffennol
- parchu anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelod o gymdeithas amrywiol
- dangos eu hymrwymiad i sicrhau cynaladwyedd y blaned
ac sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd
Unigolion iach, hyderus sydd:
- â gwerthoedd sicr ac sy’n sefydlu eu credoau ysbrydol ac egwyddorol
- yn meithrin eu lles meddyliol ac emosiynol drwy ddatblygu hyder, cadernid ac empathi
- yn cymhwyso gwybodaeth am effaith deiet ac ymarfer corff ar iechyd corfforol a meddyliol yn eu bywyd pob dydd
- yn gwybod sut i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen i gadw’n ddiogel ac iach
- yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol
- yn gwneud penderfyniadau pwyllog ynghylch eu ffordd o fyw ac yn rheoli risg
- â’r hyder sydd ei angen i gymryd rhan mewn perfformiadau
- yn ffurfio cydberthnasau cadarnhaol wedi’u seilio ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd
- yn wynebu heriau ac yn eu goresgyn
- â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddelio â’u bywyd pob dydd mor annibynnol ag y gallan nhw
ac sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Dewch i gwrdd â Undeg Uchelgeisiol, Meilyr Mentrus, Elliw Egwyddorol, Iona Iach a Hywel Hyderus!
Er mwyn cefnogi dealltwriaeth ein dysgwyr o’r pedwar diben a gweledigaeth y Cwricwlwm Newydd i Gymru, rydym wedi cyflwyno’n cymeriadau 4 Diben ar draws Ysgol Teilo Sant. Bydd y disgyblion yn cwrdd â’r cymeriadau yn ystod y blynyddoedd cynnar a dros amser, yn dod i gydnabod agweddau o bersonoliaeth pob un cymeriad a deall sut gallent anelu i fod yn ddysgwyr tebyg a llwyddiannus. Mae’r cymeriadau yn fyw ar draws safle’r ysgol; trwy arwyddion a phresenoldeb y cymeriadau yn y dosbarthiadau ac ymysg y darpariaeth, allan ar yr iard a hefyd yn sail i drafodaeth dysgu pob dydd sy’n digwydd rhwng y plant a’r staff dysgu.
Datblygu’r Cwricwlwm: Beth yw’r Nod?
Mae sgiliau cyfannol yn sail i’r pedwar diben a dylid eu datblygu o fewn ystod eang o ddysgu ac addysgu. Mae ein dysgwyr yn haeddu cyfleoedd i fod yn chwilfrydig ac yn holgar, yn archwilio a datblygu i fod yn arloeswyr creadigol.
Dylent eu cefnogi i ddarganfod cysylltiadau rhwng eu dysgu a’u profiadau, ac adnabod cyfleoedd a strategaethau newydd.
Rydym am annog ein dysgwyr i feddwl yn feirniadol trwy ofyn cwestiynau pwrpasol, gwerthuso gwybodaeth a sefyllfaoedd, a meistroli eu gallu i wneud penderfyniadau gwrthrychol; yn pennu amcanion personol, myfyrio ar eu cynnydd ac addasu.
Rydym am i’n dysgwyr i dyfu’n fwyfwy hyderus ac yn annibynnol, gyda dealltwriaeth emosiynol iach a chalon a meddylfryd moesol.
Rydym am i’n dysgwyr deall pwrpas a gwerth dysgu, sut yn union rydym yn dysgu a’r boddhad sy’n dod law yn llaw â chynnydd a thyfiant – yn ennyn agwedd angerddol at ddatblygiad gydol oes a meddylfryd o dwf.
Bydd ein cwricwlwm yn cynnwys y 6 Maes Dysgu a Phrofiad:
- Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Mathemateg a Rhifedd
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Y Dyniaethau
- Iechyd a Lles
- Celfyddydau Mynegiannol
Yn ogystal, mae yna dri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd sy’n bresennol ar draws y 6 Maes Dysgu a Phrofiad:
- Llythrennedd
- Rhifedd
- Cymhwysedd Digidol
Mae lefelau a deilliannau oedran rhagnodol yn newid i Gamau Cynnydd mwy eang sy’n cymhwyso’n cred bod pob taith ddysgu yn unigryw ac yn datblygu ar gyflymder unigol.
Am ragor o wybodaeth am y Cwricwlwm Newydd a’r newidadau sydd ar y gweill, ewch i: https://llyw.cymru/mae-addysg-yn-newid