Mae gofal llesol yn ffocws annatod o’n bywyd yn Ysgol Teilo Sant. Mae creu hafan hapus a diogel sy’n cynnig cefnogaeth ac arweiniad priodol i bawb yn flaenoriaeth parhaol, ac ymdrechwn i gefnogi’n disgyblion i ddatblygu a chynnal iechyd meddyliol a chorfforol cadarn yn ogystal ag annog perthnasau cadarnhaol, iach.
Mr Ioan Jones a Mrs Maureen Williams yw swyddogion diogelu dynodedig yr ysgol.
Bwriad ein llysgenhadon ysgolion iach yw i:
- Godi ymwybyddiaeth disgyblion am bwysigrwydd ymgymryd ag ymarfer corff a gofalu am ein hiechyd.
- Godi proffil chwaraeon ac ymarfer corff ar draws yr ysgol.
- Gydlynu cyfloedd i ddisgyblion fwynhau gemau buarth a chwaraeon yn ystod cyfnodau egwyl.
- Annog eraill i wneud penderfyniadau synhwyrol.
- Drefnu digwyddiadau ysgol gyfan sy’n hyrwyddo bywyd iach, megis pythefnos cerdded i’r ysgol.
Rydym yn pwysleisio i’n disgyblion bod croeso iddynt drafod yr hyn sy’n eu pryderu ac yn sicrhau bod pob plentyn yn deall at bwy i droi i ofyn am gymorth.
Yn ogystal, mae ELSA (Emotional Learning Support Assistant) gennym yn yr ysgol er mwyn cynnig cefnogaeth ychwanegol. Mae’r ELSA’n gweithio gydag unigolion neu grwpiau bach i ddarparu ymyrraethau pwrpasol wedi’u teilwra i anghenion y plentyn/plant ar y pryd. Bwriad yr ELSA yw i:
- Ddatblygu llythrennedd emosiynol ein plant
- Hyrwyddo iechyd meddyliol iach
- Gefnogi plant i wella’u sgiliau cymdeithasol
- Gefnogi plant a’u hanghenion llesol
Mae’r Senedd Ysgol, ynghyd â’r is-bwyllgorau yn cynnig cyfle i’r plant mynegi barn a chyfrannu at fywyd yr ysgol. Mae cynrychiolwyr ym mhob dosbarth o flwyddyn 1 i fyny, ac maent yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod syniadau wedi’u hawgrymu gan ddisgyblion ar draws yr ysgol.
Strwythur ein Senedd:
- Senedd Ysgol
- Pwyllgor Ysgolion Iach
- Pwyllgor Eco
Wrth i ni ddechrau uned newydd o ddysgu, bydd cyfle i’r disgyblion cyfrannu eu syniadau am y pwnc dan sylw, neu ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt. Bydd y cyfraniad yma’n cefnogi gwaith cynllunio’r athrawon, gan sicrhau cydbwysedd o sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau sy’n sicrhau datblygiad addysgiadol y disgyblion.
Fel rhan o’n ffocws ar les ein disgyblion, rydym am gefnogi’n teuluoedd i wneud penderfyniadau iach am yr hyn mae’r plant yn eu bwyta. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno cyfleoedd pwrpasol i ddysgu am y corff a maethiad ar draws oedrannau’r ysgol a hyrwyddo dewisiadau bocs bwyd a darpariaeth cinio twym iach.
Mae gwefan Sgiliau Maeth am Oes yn cynnwys llwyth o wybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys fideos a ryseitiau iach medrwch fwynhau yn y cartref.
Gwefan Sgiliau Maeth am Oes