Mae gan yr Ysgol glwb gofal cofrestredig dyddiol a weithredir gan Gofal Plant Cyf, chwaer gwmni Menter Dinefwr.
Mae’n cynnig gofal i 36 o blant yr ysgol tu allan i oriau arferol yr ysgol mewn amgylchedd diogel a chyfeillgar, a threfnir amrywiol weithgareddau yn ddyddiol, megis celf a chrefft, gemau a chwaraeon. Mae’r clwb yn cynnal sesiwn fore a phrynhawn, ac mae’n ddechreuad neu’n ddilyniant naturiol i’r diwrnod ysgol arferol.
Y gost am y sesiwn bore yw £3.00 y plentyn (8-9am), a £8.50 y plentyn i fynychu’r clwb ar ôl ysgol (3.15pm-6pm), yn cynnwys lluniaeth ysgafn yn y ddwy sesiwn. Mae’r Clwb wedi ei gofrestru gydag Arolygaeth Gofal Cymru ac yn cael ei reoli gan staff proffesiynol.
Os ydych am i’ch plentyn fynychu’r Clwb neu os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch â Nerys Howell (arweinydd) yn y Clwb neu Gofal Plant Cyf ar (01558) 825336.
Dyma’r linc i wefan Gofal Plant Cyf
Mae Twts Tywi yn darparu nifer o wahanol wasanaethau cofleidio i deuluoedd yn y gymuned leol.
Gwasanaeth gofal cofleidiol
Mae’r gwasanaeth yma ar gyfer plant sydd yn dechrau Teilo Sant rhan amser. Byddwn yn casglu a chludo’r plant i’n meithrinfa ym Manordeilo ac oddi yno.
Clwb Twts Tywi – Ar ôl Ysgol
Mae’r ddarpariaeth o safon uchel, a ganmolwyd gan ein teuluoedd yn y brif feithrinfa, nawr yn cael ei hategu yn y gwasanaethau a ddarperir yng Nghlwb Twts Tywi, a leolir ar dir ysgol Llandeilo. Ein hethos yw darparu gofal plant o ansawdd uchel ar gyfer rhieni prysur, sy’n gweithio bob diwrnod ysgol o’r adeg pan fydd yr ysgol yn gorffen hyd at 6yp.
Rydyn yn deall ar ddiwedd diwrnod prysur yn yr ysgol, mae plant yn dechrau blino, neu angen gollwng stêm. Mae naws hamddenol i’n clwb ar ôl ysgol felly, gan roi’r dewis i blant gymryd rhan mewn amrywiaeth o wahanol gemau a gweithgareddau (dan do a thu allan) i ddal i fyny gyda hen ffrindiau neu wneud rhai newydd.
Rydym hefyd yn ffodus iawn o allu defnyddio’r rhandir, lle bydd y plant yn dysgu o brofiadau bywyd go iawn wrth blannu blodau, perlysiau a llysiau.
Cynigir byrbryd iach i blant bob prynhawn, sy’n cynnwys ffrwythau neu lysiau ffres a charbohydrad (crympets, brechdanau ac ati).
Clwb Gwyliau
Mae’r clwb yn rhedeg rhwng 8yb a 6yp yn ystod gwyliau ysgol, gan gau ar wyliau banc yn unig ac wythnos dros y Nadolig. Rydym yn darparu gofal plant i fechgyn a merched rhwng 3 a 12 oed. Rydyn yn croesawu pob plentyn a’u teuluoedd heb ragfarn, i ddarparu arfer cynhwysol sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth.
Mae Clwb Twts Tywi yn darparu ystod o adnoddau a gweithgareddau sy’n cynnwys celf a chrefft, arbrofion gwyddonol, garddio, gweithgareddau chwaraeon a llawer mwy. Dilynwn ddiddordebau’r plant, a gofynnwn am eu cyfraniad ar weithgareddau. Bydd y clwb gwyliau yn cynnwys yr holl weithgareddau hyn, ynghyd ag ymweliadau o fewn y dref leol am brofiadau uniongyrchol.
Cyfleoedd ariannu:
Ar ôl i’ch plentyn droi’n 3 oed mae gennych hawl i gynnig gofal plant Cymru. Gallwn ddarparu hyd at 20 awr o gyllid am ddim yr wythnos, yn ystod y tymor ar gyfer ein gwasanaeth cofleidiol yn y feithrinfa. Yn ystod gwyliau’r ysgol, gallwch ddefnyddio’r 30 awr lawn gyda ni, gan roi cyfle i chi dri diwrnod llawn yn ein clwb gwyliau, wedi’u gorchuddio’n gyfan gwbl gan y cynnig hwn, heb unrhyw beth i chi ei dalu. Mae gan deuluoedd hawl i’r 30 awr yma dros 9 wythnos o wyliau’r ysgol.
Neu gallwch arbed 20% wrth gofrestru gyda’r gofal plant di-dreth.
Cysylltwch â ni os hoffech fwy o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael:
01550779039
07772683233
E-bost – info@twtstywi.co.uk