Mae dwyieithrwydd yn cryfhau’r galluoedd gwybyddol – mae pobl ddwyieithog yn tueddu bod yn fwy creadigol a hyblyg. Maent yn tueddu i fod â meddwl mwy agored, ac maent hefyd yn ei chael yn haws canolbwyntio ar amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd. Ac mae gallu siarad dwy iaith yn helpu mewn ffyrdd eraill hefyd…
Addysg
- Mae plant dwyieithog yn tueddu i fod yn fwy llwyddiannus mewn addysg. Maent yn tueddu i gyflawni’n well mewn tasgau
- Mae pobl ddwyieithog yn ei gweld yn haws i ddysgu ieithoedd ychwanegol
- Mae plant sy’n derbyn addysg Gymraeg yn gwneud gystal, os nad gwell, yn Saesneg â phlant sy’n cael addysg Saesneg